Peter Jeffreys 
Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg y Trallwng a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ble y bu’n darllen Hanes, cafodd Peter Jeffreys ei hyfforddi yn athro yn Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain cyn derbyn swyddi addysgu yn Gillingham, Caint a Leighton Buzzard, Swydd Bedford. Wedyn daeth yn swyddog addysg yr awdurdod lleol gyda Chyngor Sir Swydd Hertford cyn derbyn swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd fel swyddog addysg cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros addysg gynradd a gwasanaethau arbennig. Tra yng Nghaerdydd, derbyniodd radd M.Add. ar ôl bod yn astudio’n rhan amser yn y brifysgol. Ar ôl cyfnod yn y Brifysgol Agored, ble’r oedd yn uwch ysgrifennydd cynorthwyol yn y Gyfadran Astudiaethau Addysgol, cafodd ei benodi yn uwch swyddog addysg cynorthwyol gyda Chyngor Sir Swydd Buckingham ble’r oedd yn rheoli’r adran gwasanaethau cyffredinol.
Cyn ymddeol, treuliodd 21 mlynedd yn ysgrifennydd a chofrestrydd yn yr hyn a adwaenid, hyd 1992, yn Goleg Polytechnig Hatfield – Prifysgol Swydd Hertford wedi hynny. Ac yntau’n aelod gweithgar o Company of Ten, cymdeithas ddramatig amatur adnabyddus ac uchel ei pharch yn St Albans, bu’n cymryd rhan fel actor a chantor mewn nifer fawr o gynyrchiadau.



