Y Parchedicaf a'r Gwir Anrhydeddus Ddr Rowan Douglas Williams
Ganwyd y Parchedicaf a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Douglas Williams yn Abertawe ar 14 Mehefin 1950, i deulu a siaradai Gymraeg, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, a Choleg yr Iesu, Caergrawnt, ble’r oedd yn astudio diwinyddiaeth. Astudiodd ar gyfer ei ddoethuriaeth – yn niwinyddiaeth Vladimir Lossky, ffigwr blaenllaw yn syniadaeth grefyddol Rwsia yn yr ugeinfed ganrif – yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, gan dderbyn ei DPhil ym 1975. Ar ôl dwy flynedd yn ddarlithydd yng Ngholeg yr Atgyfodiad, ger Leeds, fe’i ordeiniwyd yn ddiacon Eglwys Gadeiriol Trelái cyn dychwelyd i Gaergrawnt.
O 1977 ymlaen, treuliodd naw mlynedd mewn gwaith academaidd a phlwyf yng Nghaergrawnt: yn Westcott House i gychwyn, gan gael ei ordeinio’n offeiriad ym 1978, ac o 1980 ymlaen, yn gurad San George, Chesterton. Ym 1983 fe’i penodwyd yn ddarlithydd Diwinyddiaeth yn y brifysgol, a’r flwyddyn ganlynol daeth yn ddeon a chaplan Coleg Clare. Ym 1986, dychwelodd i Rydychen, yn Athro Lady Margaret mewn Diwinyddiaeth a Chanon Coleg Crist; dyfarnwyd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth iddo ym 1989, a daeth yn gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1990. Y mae hefyd yn fardd a chyfieithydd medrus.
Ym 1991 etholwyd a chysegrwyd yr Athro Williams yn esgob Mynwy, esgobaeth ar y gororau, ac ym 1999 ar ymddeoliad yr Archesgob Alwyn Rice Jones cafodd ei ethol yn Archesgob Cymru, un o’r 38 archesgob yn y Cymundeb Anglicanaidd. Ac felly, ym mis Gorffennaf 2002, gydag 11 mlynedd o brofiad yn esgob yr esgobaeth a thair blynedd yn archesgob blaenllaw yn y Cymundeb, cadarnhawyd yr Archesgob Williams ar 2 Rhagfyr 2002 yn 104ydd esgob Esgobaeth Canterbury: yr olynydd cyntaf o Gymru i Awstin Sant o Canterbury, a’r cyntaf i gael ei benodi o’r tu allan i’r Eglwys yn Lloegr ers canol y drydedd ganrif ar ddeg.
Caiff Dr Williams ei gydnabod yn rhyngwladol yn awdur, ysgolhaig ac athro diwinyddol rhagorol. Bu’n ymwneud â llawer o gomisiynau diwinyddol, ecwmenaidd ac addysgol. Mae’n awdur toreithiog mewn amrywiaeth eang iawn o feysydd astudio proffesiynol – athroniaeth, diwinyddiaeth (Cristnogaeth gynnar a phatristig yn arbennig), ysbrydolrwydd ac estheteg grefyddol – ac mae ei lyfryddiaeth yn tystio i hynny. Trwy gydol ei yrfa, bu’n ysgrifennu hefyd ar bynciau moesol, moesegol a chymdeithasol, ac ers dod yn archesgob trodd ei sylw’n gynyddol at faterion diwylliannol cyfoes a rhyng-ffydd.




