Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan
Etholwyd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Rhodri oedd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Materion Ewropeaidd rhwng 1999 a 2000.
Daeth yn Brif Weinidog ar 16 Hydref 2000, wedi iddo ddal yr un swydd o dan y teitl blaenorol, Prif Ysgrifennydd, ers mis Chwefror y flwyddyn honno. Ar 1 Mai 2003, ail etholwyd Plaid Lafur Cymru i’r Cynulliad o dan arweinyddiaeth Rhodri. Serch hynny, yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007, roedd Llafur bedair sedd yn brin o fwyafrif llwyr. Ar 27 Mehefin 2007, arwyddodd Rhodri gytundeb Cymru’n Un i ffurfio llywodraeth gyda Phlaid Cymru.
Cyhoeddodd Rhodri Morgan ei fwriad i ymddiswyddo fel Arweinydd Plaid Lafur Cymru ar 1 Hydref 2009, ac ymddiswyddodd fel Prif Weinidog Cymru ar 8 Rhagfyr 2009.




