Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn disgrifio sut mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn defnyddio ac yn gwarchod unrhyw wybodaeth a rowch i ni pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.
Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn ymrwymedig i sicrhau y gwarchodir eich preifatrwydd. Pe gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod ohoni wrth ddefnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn sicr y caiff ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig.
Gall Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 1 Mehefin 2011.
Beth rydym yn casglu
Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol:
- enw
- canylion cysylltu gan gynnwys cyfeiriad e-bost
- gwybodaeth ddemograffig megis cod post, hoffterau a diddordebau
- gwybodaeth arall sy’n berthnasol i gynigion a/neu arolygon cwsmeriaid
Beth a wnawn â'r wybodaeth a gasglwn
- Mae angen y wybodaeth hon arnom er mwyn deall eich anghenion a darparu gwell gwasanaeth i chi, ac yn benodol am y rhesymau canlynol:
- Cadw cofnodion mewnol.
- Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
- O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn anfon e-byst hyrwyddol ynglŷn â chynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall yr ystyriwn y gallwch fod â diddordeb ynddynt gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych.
- O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu gyda chi at ddibenion ymchwil y farchnad. Efallai y byddwn yn cysylltu gyda chi drwy e-bost, ffôn, ffacs neu bost. Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i deilwra’r wefan yn unol â diddordebau chi.
Diogelwch
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal rhag i rywun gael mynediad neu ddatgeliad heb ei awdurdodi, rydym wedi rhoi gweithdrefnau materol, electronig a rheolaethol yn eu lle i warchod a diogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Sut ydym yn defnyddio cwcis
Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn caniatâd i gael ei roi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Wedi i chi gytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu ac mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig y we neu’n eich hysbysu pan fyddwch yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau’r we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwe deilwra ei weithrediadau at eich anghenion, eich hoffterau a’ch anhoffterau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich hoffterau.
Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i ganfod pa dudalennau a gaiff eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data ynglŷn â traffig tudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra at anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y defnyddiwn y wybodaeth hon ac wedyn caiff y data ei waredu o’r system.
Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau a gewch yn ddefnyddiol a pha rai na chewch yn ddefnyddiol. Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur chi nac unrhyw wybodaeth amdanoch, ar wahân i’r data y dewiswch ei rannu gyda ni.
Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr y we yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis pe dymunwch. Gallai hyn eich rhwystro rhag manteisio’n llawn ar y wefan.
Dolenni i wefannau eraill
Gallai ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Serch hynny, wedi i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch tra’n ymweld â gwefannau o’r fath ac ni chaiff gwefannau o’r fath eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallech ddewis cyfyngu’r arfer o gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd canlynol:
-
Pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am y blwch y gallwch roi tic ynddo i ddynodi nad ydych eisiau i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol
-
os ydych wedi cytuno’n flaenorol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, gallech newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom i’r cyfeiriad hwn: membeship@cymmrodorion.org.
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na’n prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon onid oes gennym eich caniatâd i wneud hynny neu y mae’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddol i chi am drydydd partïon yr ystyriwn y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt pe dwedwch wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.
Gallwch ofyn am fanylion personol rydym yn eu cadw amdanoch o dan Ddeddf Gwarchod Data 1998. Bydd tâl bychan yn daladwy. Os ydych yn dymuno cael copi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch, ysgrifennwch atom: Cymmrodorion, Blwch Post 55178, Llundain, N12 2AY.
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro’n ddi-oed unrhyw wybodaeth y ceir ei bod yn anghywir.



