Cynhelir ein cyfarfodydd yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg – Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams – yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru yn Llundain a Chymdeithas Sir Drefaldwyn. Fel arfer, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Mai bob blwyddyn.
Cynhelir derbyniad gwin byr i ddilyn pob digwyddiad a drefnir gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a estynnir croeso i bawb sy’n bresennol. Cyhoeddir y darlithoedd, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau eraill, yn y Trafodion blynyddol, ac anfonir copi i bob aelod.
I gael rhagor o wybodaeth am raglen y Gymdeithas, cysylltwch â’r Ysgrifennydd Anrhydeddus.





