Dr Adrian Morgan
Un o Bontarddulais ger Abertawe yw Adrian Morgan. Fe’i haddysgwyd yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae’n aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac ef yw ymgynghorydd yr Iaith Gymraeg i Esgobaeth Tŷ Ddewi. Mae’n aelod gweithgar o Gyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru a bu’n aelod o Orsedd y Beirdd ers mwy na deng mlynedd. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe.
Y mae’n ordinand yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae'n darllen am radd mewn Diwinyddiaeth yn Peterhouse, Caer-grawnt ac yn paratoi am urddau yn Ridley Hall.



