Ymuno â'r Gymdeithas

english

Ymaelodi

Mae’r Cymmrodorion yn denu amrywiaeth eang o aelodau unigol a chorfforaethol o bedwar ban byd.

Mae ein haelodau presennol yn cynnwys dynion a menywod o bob math o gefndiroedd, sy’n weithgar yn natblygiad gwleidyddol a diwylliannol y genedl ac sy’n hybu Celfyddydau a Gwyddorau Cymru yn angerddol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn ymfalchïo yn ei haelodau corfforaethol lu, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgelloedd Cenedlaethol Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Mae llawer o brifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd yn aelodau o’r gymdeithas; mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Prifysgol Efrog, a Phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Manteision Ymaelodi

Gall aelodau fynychu darlithoedd rheolaidd y Gymdeithas, a gynhelir yn Llundain ac yng Nghymru, a byddant yn derbyn copi am ddim o’r Trafodion, cyfnodolyn y Gymdeithas, bob blwyddyn.

Hefyd, cynigir i aelodau’r Gymdeithas fynediad arbennig i adran breifat yr aelodau ar ein gwefan, ble gallant lawrlwytho hen gopïau o gyfnodolion y Gymdeithas, erthyglau o ddiddordeb penodol, neu recordiadau MP3 o ddarlithoedd a draddodwyd. Maent hefyd yn gymwys i wneud cais am gyhoeddiadau eraill y Gymdeithas am bris gostyngedig iawn.

Mae aelodau’r Gymdeithas hefyd yn derbyn cylchlythyrau rheolaidd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau, ac maent yn cyfrannu’n sylweddol at y ffordd y caiff y Gymdeithas ei chynnal drwy arfer eu hawl i gyflwyno cynigion a phleidleisio i ethol Aelodau’r Cyngor yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 Y tâl aelodaeth am eleni yw £35.00 yn unig. 

Os hoffech drafod unrhyw fater yn ymwneud ag aelodaeth o'r Gymdeithas, cysylltwch â'r Ysgrifennydd Aelodaeth.

Ymuno â'r Gymdeithas

Credit Card Join Button