Cymryd Rhan

english 

Ceisia Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion fynd i’r afael â phynciau llosg Cymru ddoe, heddiw ac yfory. Rydym mewn sefyllfa dda i hyrwyddo achos Cymru, a chwaraewyd rhan flaenllaw gennym wrth sefydlu llawer o’i phrif sefydliadau modern.

Mae’r Gymdeithas yn uchelgeisiol ynghylch dyfodol Cymru ac yn awyddus i ymwneud â phobl sy’n rhannu ein nodau ac amcanion. P’un a ydych yn dymuno ein dilyn ar Facebook neu Twitter, cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol, dod yn aelod o’r Gymdeithas, neu gyfrannu i gefnogi ein gwaith, byddem yn falch o gael clywed gennych.