Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

GOLYGYDDION

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > GOLYGYDDION

Dr. Emma Cavell FRHistS

Yn wreiddiol o Awstralia, astudiodd Emma ym Mhrifysgolion Tasmania a Rhydychen, daliodd gymrodoriaethau ôl-ddoethurol ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, a bu’n dysgu yn Exeter, Leeds, ac Abertawe, lle mae hi’n Uwch Ddarlithydd mewn hanes canoloesol. Mae hi’n abrenigo ar hanes cymdeithasol Prydain, yn arbennig merched bonheddig ar y ffin yng Nghymru rhwng 1066 a 1284, ac ymgyfreithwragedd Iddewig yn Lloegr cyn yr Allyriad (1290).

Mae cyhoeddiadau diweddaraf Emma yn cynnwys erthyglau yn The English Historical Review, Law and History Review and Anglo-Norman Studies, yn ogystal ag erthygl a wobrwywyd, wedi ei hanelu at gynulleidfa mwy eang, a enillodd wobr, yn y Journal of the Mortimer History Society. Mae hi’n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, ac yn Gyd-Gyfarwyddwr MEMO, Canolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar Abertawe. Ar hyn o bryd mae hi’n ymgynghorydd arbenigol ar brosiect sylweddol wedi ei harwain gan Cadw i ailddatblygu Castell Caerffili fel cyrchfan bwysig i ymwelwyr.

Dr. Sara Elin Roberts FRHistS

Mae Dr Sara Elin Roberts yn ganoloeswr yn arbenigo ar Gymru’r oesoedd canol, yn arbennig hanes Cymru’r oesoedd canol, cyfraith Hywel Dda, testunau a llawysgrifau, a rhyddiaith Gymraeg canol. Mae hi wedi gweithio fel darlithydd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Bangor, ac Adran Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caer. Mae Dr Roberts wedi cyhoeddi yn helaeth ar wahanol agweddau o Gymru’r oesoedd canol, gan gynnwys ei llyfr, a enillodd ddwy wobr, ar gyfraith Hywel, The Legal Triads of Medieval Wales (GPC, 2007). Roedd hi hefyd yn un o’r golygyddion ar gyfer y golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym, a gyhoeddwyd arlein fel www.dafyddapgwilym.net