Mae’r Gymdeithas yn gwbl hunangynhaliol ac mae’n dibynnu ar haelioni ein cyfeillion a’n cefnogwyr er mwyn parhau i hyrwyddo Cymru yn y byd ehangach.
Bydd eich cyfraniad yn helpu’r Gymdeithas i:
- Ariannu darlithoedd sydd yn mynd i’r afael â phynciau llosg Cymru ddoe, heddiw ac yfory.
- Parhau i gynhyrchu ei chyhoeddiadau uchel eu parch, gan gynnwys y Trafodion a’r Bywgraffiadur Cymreig.
- Cynnal y drafodaeth bwysig ar bob peth yn ymwneud â Chymru drwy ymgysylltu â phobl o bedwar ban byd ym meysydd gwleidyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.
Gallwch wneud gwahaniaeth go iawn drwy gyfrannu heddiw.




