
Mae’r Trafodion yn ymddangos yn flynyddol ar ffurf cyfnodolyn ysgolheigaidd sy’n cynnwys papurau a draddodwyd i’r Gymdeithas fel rhan o’i rhaglen flynyddol o ddarlithoedd, ynghyd ag erthyglau ychwanegol a gomisiynir gan y Golygydd neu a gyflwynir gan gyfranwyr.
Yn y Trafodion, ceir erthyglau am bob agwedd ar hanes a diwylliant Cymru o unrhyw gyfnod, gan gynnwys llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg), hanes, celf, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Gellir cyflwyno erthyglau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Y Trafodion yw un o’r cyfnodolion ysgolheigaidd hynaf ym Mhrydain, a’r unig un i arbenigo mewn astudiaethau Cymreig rhyngddisgyblaethol.
Y gyfrol ddiweddaraf o’r Trafodion i gael ei chyhoeddi yw Cyfrol 17 (2011). Ceir crynodeb o gynnwys y cyfnodolyn a bywgraffiad o'r cyfranwyr fan hyn.
Sut i gyflwyno erthygl i’w chyhoeddi
Dylid cyflwyno erthyglau ar ffurf copi caled unigol neu ffeil electronig (dogfen Word) wedi’i chyflwyno drwy’r wefan neu drwy e-bost i’r Golygydd. Ni ddylai erthyglau fod yn rhagor na 7000 o eiriau, yn cynnwys nodiadau. Mae’r Trafodion yn defnyddio canllaw arddull yr MHRA (Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern). Mae copïau o’r canllaw arddull ar gael oddi wrth yr MHRA a cheir crynodeb o’r canllaw ar ei gwefan (www.mhra.org.uk).
Caiff cyflwyniadau eu hadolygu yn anhysbys gan gymheiriaid, ac fel arfer cânt eu darllen gan un aelod o’r Bwrdd Golygyddol ynghyd â darllenydd arall a enwebir gan y Golygydd. Dychwelir sylwadau’r darllenwyr i’r cyfranwyr.
Y Golygydd
Yr Athro Helen Fulton
Department of English and Related Literature
University of York
King’s Manor
York YO1 7EP
helen.fulton@york.ac.uk
Y Bwrdd Golygyddol
Yr Athro Stuart Cole - Prifysgol Morgannwg
Yr Athro John Ellis - Prifysgol Michigan
Dr Anne Knowles- Coleg Middlebury
Yr Athro Ronald Lewis - Prifysgol West Virginia
Yr Athro Catherine McKenna - Prifysgol Harvard
Yr Athro Daniel Melia - Prifysgol California, Berkeley
Yr Athro Joseph Falaky Nagy - Prifysgol California, Los Angeles
Yr Athro Christopher Williams - Prifysgol Abertawe


