Dr Barry Morgan

english

Dr Barry Morgan

Dr Barry Morgan yw Esgob presennol Llandaf ac Archesgob Cymru, ond cyn hynny bu’n Esgob Bangor rhwng 1993 a 1999. Fe’i ganwyd ym mhentref Gwauncaegurwen, ger Castell-nedd, darllenodd hanes yn Llundain, Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt ac fe’i hyfforddwyd i’r offeiriadaeth yn Wescott House, Caergrawnt.

Astudiodd ei ddoethuriaeth tra’r oedd yn ddarlithydd prifysgol. Bu’n gweithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau offeiriadol – yn offeiriad plwyf, yn ddarlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, ac yn archddiacon, cyfarwyddwr ordinandiaid ac yn swyddog addysg offeiriadol parhaus. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd, ac mae’n gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a llyfrau, a’r diweddaraf yw astudiaeth o waith y bardd R. S. Thomas ‘Strangely Orthodox’.

Ef hefyd yw Dirprwy-Ganghellor presennol Prifysgol Cymru, mae’n gymrawd Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan ac yn Llywydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac yn ddiweddar bu’n gadeirydd ymchwiliad ar ran Shelter Cymru i ddigartrefedd yng Nghymru. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau.

Beth sy’n digwydd

Llwythwch i lawr ein rhaglen ddigwyddiadau

Porthiant RSS

Tanysgrifiwch i’n Porthiant RSS Newyddion a Digwyddiadau