Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Bywgraffiadur Cymreig

cartref > Y Gymdeithas > Cyhoeddiadau > Y Bywgraffiadur Cymreig

Yn ei ragair i’r Bywgraffiadur Cymreig, honna Emrys Jones mai creu’r gyfrol yw rhodd fwyaf Cymdeithas y Cymmrodorion i ysgolheictod Cymru. Mae sail gadarn i’w honiad. Dros rhyw 70 mlynedd, mae’r ugeiniau o ysgolheigion a fu’n rhan o brosiect Bywgraffiadur Cenedlaethol Cymru wedi llunio trysorfa wirioneddol o wybodaeth, drwy ymchwil ofalus iawn a gwybodaeth bersonol mewn rhai achosion, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol yn yr iaith Gymraeg a dwy gyfrol yn y Saesneg gan y Cymmrodorion.

Mae’r cyfrolau yn galeidasgop: ceir awduron, gweinidogion, tirfeddianwyr, diwydianwyr, gwleidyddion, milwyr, penseiri a cherddorion ar eu tudalennau. Mae’n addas bod yn eu plith fywgraffiadau pedwar dyn a fu’n ymwneud yn fawr â phrosiect y bywgraffiadur. Daeth Syr John Cecil-Williams yn ysgrifennydd anrhydeddus y Cymmrodorion ac ef oedd y sbardun i gyhoeddi’r Bywgraffiadur Cymreig. Yr hanesydd Syr John Edward Lloyd, yn ychwanegol at fod yn Gofrestrydd ac Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac awdur gweithiau hanesyddol nodedig, oedd golygydd cyntaf y Bywgraffiadur. Olynwyd Syr John Ballinger i swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol gan Syr William Llewelyn Davies ac ef oedd Golygydd Cysylltiol y Bywgraffiadur. Serch hynny, asgwrn cefn prosiect y Bywgraffiadur Cymreig ar hyd llawer o flynyddoedd oedd R. T. Jenkins, hanesydd, gŵr llengar, Ffrainc-garwr – ‘gŵr amlochrog’, yn ôl y cofnod.

Yn ogystal â bod yn gyfeirlyfr amhrisiadwy, mae’r Bywgraffiad yn llyfr i bori ynddo ar hap. Ynddo, ochr yn ochr, ceir Llewellyn Jones, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Genhadol y MC a Mai Jones, cyfansoddwraig ‘We’ll keep a welcome’ a phersonoliaeth radio ysbrydoledig, neu deulu’r Cilie – ‘teulu o ofaint, beirdd, cantorion a phregethwyr’ – a’r seicdreiddiwr Ernest Jones. Gall y darllenydd fyfyrio dros amrywiaeth y ffynonellau, sy’n amrywio o Annals of the Royal College of Surgeons trwy’r Alpine Journal a’r Radnor Express i’r Bulawayo Chronicle, neu ryfeddu at nifer y cofnodion o dan yr enwau R. T. Jenkins neu E. D. Jones ym mynegai’r cyfranwyr a’u herthyglau.

Yn dilyn ymddeoliad Dr Brynley F. Roberts yn 2013 ar ôl dros bum mlynedd ar hugain o wasanaeth fel Golygydd y Bywgraffiadur, ffurfiwyd partneriaeth rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru i gynnal a datblygu’r Bywgraffiadur ar ran y Cymmrodorion o 2014 ymlaen. Y ddau Gyd-Olygydd yw’r Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Dr Aled Gruffydd Jones, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, ac mae Dr Marion Löffler o’r Ganolfan yn Olygydd Cynorthwyol. Bwriedir diwygio llawer o’r hen erthyglau a chomisiynu erthyglau newydd er mwyn adlewyrchu’r cyfnod ers 1970 yn gytbwys.

Mae’r golygyddion yn falch o dderbyn gwybodaeth newydd am y bobl sydd yn y Bywgraffiadur, a hefyd awgrymiadau am bobl eraill sy’n haeddu eu cynnwys. Gallwch gysylltu trwy anfon neges at Gwasanaeth Ymholiadau.

Chwilio’r Bywgraffiadur – Cliciwch fan hyn i fynd i’r wefan i chwilio