Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams

Cynhelir Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Eleni fe fydd yr Eisteddfod yn Wrecsam.


Pwy oedd T. H. Parry-Williams?

Ganed Parry-Williams yn Rhyd-ddu, yn fab i ysgolfeistr. Fe'i addysgwyd yng Ngholeb Prifysgol Cymru, Aberystwyth, graddiodd yn y Gymraeg yn 1908, ac mewn Lladin yn 1909, yna aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a bu'n astudio Ieithyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgolion Freiburg a Pharis. Tra oedd yn efrydydd, yn 1912, enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol - camp a gyflawnodd eto dair blynedd yn ddiweddarach! Yn 1914 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth, ond o ganlyniad i anghydfod yn 1919 parthed argymhelliad i'w benodi'n Athro (teimlai rhai y dylid rhoi blaenoriaeth i gyn-filwr) troes ei gefn ar astudiaethau Celtaidd, ac aeth yn efrydydd mewn Gwyddoniaeth. Y flwyddyn ganlynol, fodd bynnag, fe'i penodwyd i Gadair y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, ac arhosodd yno nes iddo ymddeol yn 1952. 



Y Siaradwr

Magwyd Yr Athro Gruffydd Aled Williams yng Nglyndyfrdwy yn yr hen sir Feirionnydd. Ar ôl graddio yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol, Bangor bu am gyfnod (1965-70) ar staff Coleg y Brifysgol, Dulyn. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd yn ei hen Adran ym Mangor yn 1970, ac wedyn yn Uwch Ddarlithydd (1984) ac yn Ddarllenydd (1991) yno. O 1995 hyd ei ymddeoliad yn 2008 bu’n Athro’r Gymraeg ac yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Arbenigodd ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a llenyddiaeth y Dadeni. Cyhoeddodd Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (1986) a thros 40 o erthyglau a chyfraniadau i gyfrolau. Bu’n olygydd Llên Cymru ers 1997. Yn 2010 traddododd Ddarlith Goffa Syr John Rhŷs yr Academi Brydeinig.


Manylion y Ddarlith


"Catrin o eurlliw irllwyth”: Catrin o Ferain a’i hynafiaid a’r beirdd

Gyda'r Athro Prys Morgan, Llywydd y Gymdeithas, yn y Gadair. 

Pabell y Cymdeithasau 1, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam

What's On

Download our programme of events

RSS Feed

Subscribe to our News & Events RSS Feed